Creadigrwydd yw Camgymeriadau: Galw am Artistiaid Gweledol
Dyddiad cau Tachwedd 29, 23:59 2022
Mae Celfyddydau Anabledd Cymru, Artes Mundi, g39 a Mostyn yn gwahodd artistiaid gweledol anabl, Byddar a niwrowahanol sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru i wneud cais am gyfle am dâl i gyfrannu at brosiect Creadigrwydd yw Camgymeriadau, prosiect i Gymru gyfan sy’n cael ei arwain gan anabledd.
Cefndir
Mae Creadigrwydd yw Camgymeriadau yn brosiect cydweithredol rhwng artistiaid anabl a sefydliadau celfyddydau gweledol yng Nghymru. Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar leisiau, doniau a phrofiadau uniongyrchol artistiaid gweledol anabl, Byddar a niwrowahanol wrth ddatblygu modelau arloesol ar gyfer mynediad ar y cyd yn y celfyddydau gweledol.
Mynediad ar y cyd yw mynediad sy’n cael ei greu’n fwriadol gyda’n gilydd, gan symud y cyfrifoldeb oddi wrth yr unigolyn y mae angen mynediad arno, i’r cymunedau, y sefydliadau a’r seilweithiau ehangach. ‘Mae mynediad yn gymhleth’—mae’n fwy na dim ond cynnig ramp—ac ‘mae’n broses barhaus nad yw’n stopio’, ysgrifenna'r ymgyrchydd anabledd Leah Lakshmi Pipzna-Samarasinha. Mae datblygu mynediad ar y cyd yn y celfyddydau gweledol yn galw am gydweithio parhaus, arbrofi, dysgu o gamgymeriadau a sgyrsiau gonest.
Bydd hyd at 15 o artistiaid sy’n cymryd rhan yn gweithio gyda’r sefydliadau partner i ddatblygu’r rhaglen Creadigrwydd yw Camgymeriadau. Bydd hyn yn cynnwys gweithdai, cyfleoedd datblygu proffesiynol, mentora artistiaid un-i-un, ymchwil a digwyddiadau cyhoeddus drwy gydol 2022-23.
Drwy’r prosiect hwn, byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i wneud y canlynol:
Datblygu ffyrdd newydd i artistiaid a sefydliadau wreiddio mynediad bwriadol yn eu gwaith celf a’u rhaglenni mewn ffyrdd ystyrlon, gan wneud y Celfyddydau Gweledol yng Nghymru yn hygyrch i gynifer o bobl â phosibl;
Creu cyfleoedd i sicrhau bod artistiaid, curaduron ac ymarferwyr creadigol anabl, Byddar a niwrowahanol yn cael eu grymuso, eu hyrwyddo a’u cynnwys yn y sector Celfyddydau Gweledol;
Rhannu canfyddiadau’r prosiect drwy ‘becyn cymorth mynediad i’r Celfyddydau Gweledol’ a fydd ar gael yn rhad ac am ddim ddiwedd 2023.
Mae Creadigrwydd yw Camgymeriadau yn cael ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru drwy Cysylltu a Ffynnu ac mae’n bartneriaeth rhwng Celfyddydau Anabledd Cymru, Artes Mundi, g39 a Mostyn, gydag arbenigedd ychwanegol gan Venture Arts o Fanceinion
Ffioedd ac Ymrwymiad
Bydd pob artist dethol yn derbyn un taliad o £900 am gymryd rhan yn y prosiect. Gellir rhannu hyn yn daliadau llai dros nifer o fisoedd os yw hynny’n well gennych.
Mae’r amser y disgwylir i bob cyfranogwr ei neilltuo yn ystod y prosiect yn cyfateb i gyfanswm o tua 5 diwrnod. Bydd y rhan fwyaf o’r gweithgarwch yn digwydd ar-lein.
Pwy sy’n Gymwys
Mae Creadigrwydd yw Camgymeriadau yn gweithio yn unol â'r model cymdeithasol o anabledd, sy’n cydnabod mai rhwystrau systemig, agweddau negyddol ac allgáu cymdeithasol (bwriadol neu anfwriadol) yw’r ffactorau allweddol sy’n anablu pobl.
Mae Creadigrwydd yw Camgymeriadau yn agored i artistiaid anabl, Byddar a niwrowahanol sy’n hunan-ddatgan ac sy’n byw yn unrhyw le yng Nghymru, sy’n 18 oed neu’n hŷn. Os cewch eich dewis, byddwn yn gofyn i chi rannu eich anghenion mynediad â ni i’n helpu i’ch cefnogi chi a chyflawni’r rhaglen.
Sut mae gwneud cais
Cyflwynwch yr wybodaeth ganlynol gan ddefnyddio’r ffurflen Airtable ar-lein yma
Eich manylion cyswllt a’r rhagenwau sydd orau gennych. Er enghraifft, hi, nhw, ef;
Datganiad diddordeb ysgrifenedig byr o 200-300 gair yn Gymraeg neu yn Saesneg; neu recordiad fideo neu lais yn Gymraeg, Saesneg neu Iaith Arwyddion Prydain yn disgrifio eich diddordeb yn y prosiect (gweler isod am ragor o wybodaeth). Gallai eich datganiad neu recordiad gynnwys rhai o’r canlynol neu bob un:
Sut y byddai cyfranogi o fudd i chi neu i’ch practis;
Beth fyddech chi’n ei gyfrannu at y prosiect;
Yr hyn yr hoffech ei ddysgu o Creadigrwydd yw Camgymeriadau;
Beth hoffech chi ei weld yn newid ar gyfer pobl anabl, Fyddar a niwrowahanol yn y celfyddydau gweledol;
Naill ai ddolen at wefan/cyfryngau cymdeithasol NEU CV – pa un bynnag sy’n cynrychioli eich arferion celf orau yn eich barn chi.
Rhagor o wybodaeth ar gyfer rhaglenni fideo/sain:
Uchafswm o 3 munud;
Lanlwythwch eich fideo neu’ch sain i Vimeo, YouTube, SoundCloud neu debyg. Dylai eich lanlwythiad fod un ai ‘heb ei restru’ neu wedi’i gwarchod gan gyfrinair.
Gall eich fideo/sain fod yn Gymraeg, Saesneg neu Iaith Arwyddion Prydain;
Nid oes angen recordiad proffesiynol (mae defnyddio ffôn yn iawn), ond gwnewch yn siŵr bod eich recordiad yn glir, gyda chyn lleied â phosibl o sŵn cefndir.
Bydd hyd at 15 o artistiaid yn cael eu dewis ar gyfer y cam hwn o’r prosiect. Aelodau o’r sefydliadau partner sy’n cymryd rhan fydd yn dewis.
I gael rhagor o wybodaeth neu os oes angen yr wybodaeth hon arnoch mewn fformat gwahanol, neu os oes angen cymorth arnoch gyda’r cais, cysylltwch â: lucy@dacymru.com